Sialens Iechyd Sir Ddinbych
Cartref

Beth yw Her Iechyd Sir Ddinbych?

Newyddion a Digwyddiada

Strategaeth Pobl Hyn

Hybu Iechyd yn y Gweithle
Busnesau Lleol sy'n cefnogi Her Iechyd Sir Ddinbych

Ymunwch i gymryd eich her eich hunan!

Linciau

Cysylltu â ni

 

 

 

 

 

Cwrs yn porthi meddwl staff meithrinfeydd
 

 

Fe lwyddodd 24 o unigolion o 15 meithrinfa ledled Sir Ddinbych i gwblhau cwrs i ddysgu’r cyfranogwyr am faethiad a diogelwch bwyd.

Fe gyflwynwyd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ddiweddar â thystysgrif Rhwydwaith y Coleg Agored gan y Cynghorydd Morfudd Jones, Aelod Arweiniol Cabinet Sir Ddinbych dros Wasanaethau Plant am gwblhau’r Cwrs Boliau Bach.

Arferion Gorau yw Boliau Bach ar gyfer prosiect Meithrinfeydd gan bartneriaeth sy’n cynnwys yr Adran Ddieteteg - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, timau Diogelwch Bwyd Cynghorau Sir Ddinbych a Chonwy a Her Iechyd Sir Ddinbych.  Caiff gefnogaeth Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Nod y prosiect yw darparu addysg maethiad a diogelwch bwyd ar gyfer staff meithrinfeydd gofal dydd o sefydliadau ledled Sir Ddinbych, gyda’r bwriad o wella’r prydau a ddarperir i’r plant sydd yn eu gofal.

Yn ystod y cwrs, fe ymwelodd dietegydd cymunedol â phob un o’r meithrinfeydd i edrych ar y ffordd y cynllunnid bwydlenni, eu cynnwys maethol ac i roi enghreifftiau o’r ffordd y gellid gwella’r bwydlenni.

Meddai Siân Caldwell, Dietegydd Datblygu Cymuned, sy’n cyflenwi’r cwrs: “Mae’r meithrinfeydd wedi gweithio’n wirioneddol galed i wella’u bwydlenni’n unol â’r canllawiau cenedlaethol cyfredol, ac o ganlyniad gwyddom yn awr fod ein plant bach yn cael cychwyn da mewn bywyd drwy’r bwyd a’r ddiod a ddarperir yn y meithrinfeydd a fu’n cymryd rhan.”
Mae’r meithrinfeydd canlynol wedi cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus: Meithrinfa Ddydd Rhuthun, Miri Meithrin Ruthun, Meithrinfa Ddydd Tiny Tots Prestatyn, Meithrinfa Ddydd Corwen, Meithrinfa Ddydd Snuggles Dinbych, Canolfan Gofal Plant y Felin Rhuthun, Meithrinfa Ddydd Beach House Y Rhyl, Meithrinfa Daisy Chains Prestatyn, Meithrinfa Ddydd Llewelyn Y Rhyl, Meithrinfa Ddydd Llanelwy, Cool Cats Y Rhyl, Sam’s Learning Tree Y Rhyl, a Conwy Kidzone, First steps a Springfields.

Fe gynhelir sesiwn nesaf Boliau Bach yn Ebrill - Gorffennaf 2010 ac fe wahoddir pob un o’r meithrinfeydd sydd ar ôl yn Sir Ddinbych i fynychu.  I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs cysylltwch â Clare Thomas ar 01824 708368.

 

 

Newyddion

 

 

 

© Cyngor Sir Ddinbych 2006
Iechyd RhywiolAlcohol a Camddefnyddio Sylweddau Damweiniau ac Anafiadau Ysmygu Bwyd FFitrwydd Cysylltwch a ni English Linciau Iechyd Meddwl a Lles