Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ennill gwobr Rhagoriaeth Cymru yn y categori Byw'n Iach.
Cawsom statws canmoliaeth uchel yn yr adran 'Ein Iechyd' hefyd pan ddosbarthwyd y gwobrau yn y seremoni wobrwyo yng Ngwesty a Sba Dewi Sant, Caerdydd, ar 9 Mawrth. Roedd y llyfryn Rhagoriaeth Cymru a gynhyrchwyd ar gyfer y nosen yn canmol Sir Ddinbych fel sir 'a gydnabyddir yn genedlaethol fel arloeswr ym maes hybu dim ysmygu'.
Yn ogystal, canmolwyd Cynllun Her Iechyd Sir Ddinbych. Roedd Ian Miller, Sian Bennett, Nicola Gribben, Sue Wright y Cynghorydd Rhiannon Hughes, a'r Cynghorydd Stuart Davies, wrth law i dderbyn y wobr gan gyflwynwyr teledu Rhodri a Lucy Owen
|