Sialens Iechyd Sir Ddinbych
Cartref

Beth yw Her Iechyd Sir Ddinbych?

Newyddion a Digwyddiada

Strategaeth Pobl Hyn

Hybu Iechyd yn y Gweithle
Busnesau Lleol sy'n cefnogi Her Iechyd Sir Ddinbych

Ymunwch i gymryd eich her eich hunan!

Linciau

Cysylltu â ni

 

 

 

 

 

 


Mae Teulu Ceri, prosiect rhithiol a grëwyd gan Gyngor Sir Ddinbych i wella a hyrwyddo iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y sir, wedi cael canmoliaeth uchel yng Ngwobrau mawreddog Llywodraeth Leol y Chronicle 2009.

Roedd enwebiad ‘Teulu Ceri’ gan Gyngor Sir Ddinbych yng nghategori iechyd a lles, a’r Awdurdod oedd yr unig awdurdod Cymreig i gael ei gydnabod yn y gwobrau, gan ennill statws Cymeradwyaeth Uchel.

Meddai’r Cynghorydd Pauline Dobb, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles, “Mae bod yn ail yn y DU gyfan yn gyflawniad ffantastig ac mae’n dangos ymroddiad llwyr Sir Ddinbych i weithio mewn partneriaeth ac ymglymu â chymunedau.

“Rwy’n hynod falch bod y prosiect arloesol hwn wedi cael cymeradwyaeth uchel yng ngwobrau llywodraeth leol.

“Mae’r Gwobrau’n dathlu ac yn gwobrwyo pob agwedd ar lywodraeth leol ac mae’n gyfle i amlygu mentrau fel Teulu Ceri ar lefel genedlaethol ac mae’n dda gweld ymroddiad enfawr staff Sir Ddinbych yn cael ei gydnabod.”

Teulu cyfryngol ‘rhithiol’ yw Teulu Ceri gydag aelodau’n amrywio mewn oedran o 2 oed i 81 oed ac yn adlewyrchu materion gofal cymdeithasol gwirioneddol o fewn Sir Ddinbych.  Fe ddatblygwyd y cysyniad i ddechrau i’w ddefnyddio yn ystod cyfnod ymglymu/ymgynghori ‘Sir Ddinbych Iach’ Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles 2008-11.  Y pwrpas oedd dod â’r strategaeth yn fyw, yn enwedig i’r grwpiau hynny a nodwyd yn rhai anodd eu cyrraedd.  Mae Teulu Ceri’n ddull yr ydym yn ei ddatblygu ymhellach i helpu i wneud ein gwasanaethau a’n gwybodaeth yn fwy hygyrch i bobl Sir Ddinbych, ac mae’n gam tuag at ddod â’r Cyngor yn nes at y gymuned.

Mae Gwobrau Llywodraeth Leol y Chronicle yn ddigwyddiad blynyddol, ac fe’i cynhaliwyd eleni yn y Grosvenor House Hotel, Llundain (dan lywyddiaeth Dara O'Briain).  Nod Gwobrau Llywodraeth Leol y Chronicle yw gwobrwyo’r gorau mewn llywodraeth leol a chydnabod y gwasanaeth ardderchog y maent yn ei gyflenwi i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.  Daw’r gwobrau â thros 1,300 o arweinwyr y diwydiant at ei gilydd i ddathlu’r cynghorau mwyaf arloesol yn y DU.

 

 

 

Newyddion

 

 

 

© Cyngor Sir Ddinbych 2006
Iechyd RhywiolAlcohol a Camddefnyddio Sylweddau Damweiniau ac Anafiadau Ysmygu Bwyd FFitrwydd Cysylltwch a ni English Linciau Iechyd Meddwl a Lles