Cartref

Beth yw Her Iechyd Sir Ddinbych?

Newyddion a Digwyddiada

Strategaeth Pobl Hyn

Hybu Iechyd yn y Gweithle
Busnesau Lleol sy'n cefnogi Her Iechyd Sir Ddinbych

Ymunwch i gymryd eich her eich hunan!

Linciau

Cysylltu â ni

 

Prosiect iechyd a lles ar y rhestr fer am wobr genedlaethol  
   

 

Mae prosiect rhithiol a grëwyd gan Gyngor Sir Ddinbych i wella a hyrwyddo gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y sir wedi ei rhoi ar y rhestr fer ar gyfer gwobr fawreddog llywodraeth leol.

Cyflwynodd y Cyngor ‘Teulu Ceri’ yng nghategori iechyd a lles yng Ngwobrau Cronicl Llywodraeth Leol 2009.
Teulu cyfryngol yw Teulu Ceri gyda chymeriadau o 2 i 81 oed, pob un â’i anghenion corfforol a chymdeithasol ei hun.
Nod teulu Ceri yw helpu pobl i ddeall a dod o hyd i’r gwasanaethau y gallent fod eu hangen.  Mae’r cymeriadau’n gwneud hyn drwy roi gwybodaeth drwy senarios problemau a sefyllfaoedd bywyd go-iawn.
Meddai’r Cynghorydd Pauline Dobb, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles: “Rwy’n falch iawn fod y prosiect  technegol-fodern ac arloesol hwn wedi cyrraedd y rhestr fer yng ngwobrau llywodraeth leol.
“Mae’r Gwobrau’n dathlu ac yn gwobrwyo pob agwedd ar lywodraeth leol ac mae’n gyfle i amlygu mentrau fel Teulu Ceri ar lefel genedlaethol.
“Dyma’r tro cyntaf i Sir Ddinbych gyrraedd y rhestr fer yng ngwobrau Cronicl Llywodraeth Leol ac mae’r cyngor yn falch iawn o’r llwyddiant hwn.  Daw’r newyddion yma’n syth ar ôl nifer o wobrau eraill y mae Sir Ddinbych un ai wedi eu hennill neu wedi bod ar y rhestr fer yn ddiweddar.  Mae’n dda gweld ymroddiad ardderchog staff Sir Ddinbych yn cael ei gydnabod.”
Bydd cynrychiolwyr Teulu Ceri’n cyflwyno i banel o feirniaid ym mis Rhagfyr ac fe roddir y canlyniad yn y gwobrau a gynhelir yn Llundain ar Fawrth 25.
Am wybodaeth bellach ar Deulu Ceri, ewch i’r wefan: www.healthydenbighshire.co.uk

 

 

 

Newyddion

 

 

 

© Denbighshire County Council 2006
Cymraeg LinksContact UsPhysical Activity Healthy Eating Smoking Accidents and Injuries Alcohol Sexual Health Mental Wellbeing